Ca'dd gario'r groes i ben y bryn

(Am ddioddefaint Crist - Yr Ail Ran)
Ca'dd gario'r groes i ben y bryn,
Nes llethu'n llwyr
    fy Iesu'n llyn;
  Gan wawdio'm Prynwr pur:
A dweud, ai dyma Israel Sanct,
Ei waed boed arnom ni a'n plant;
  O f'enaid, cofia ei gur.

Y ddaear fud roi'i meirw'n fyw,
A'r creigydd fry a holltai'n íriw,
  Wrth edrych ar fath gur:
Yr haul a ymguddiai wrth y lo's,
Y lloer a'r ser
    ai'n dywyll nos;
  O f'enaid, cofia ei gur.

Trywanwyd do fy Mhrynwr rhad,
Nes daeth o'i galon ddw'r a gwa'd,
  Yn ffrwd fel afon bur;
Oedd ar y llawr i wel'd yn llyn,
Yn frwd ar ben Calfaria fryn;
  O f'enaid, cofia ei gur.

Mi glywa'i lef pan
    chwerwa'r loes,
A'i eirad gri ef ar y groes,
  Am faddeu i mi'n wir;
Ei weddi ai trofwyf uwch y nen,
A mi'n ei hoelio ar y pren;
  O f'enaid, cofia ei gur.

Dros f'enaid i bu'r addfwyn Oen,
Fel hyn yn diodde' dirfawr boen,
  I'm gwneud yn rhydd yn wir:
'Roedd yn ei fryd orphennu'r gwaith,
O eitha' tragwyddoldeb maith;
  O f'enaid, cofia ei gur.
William Williams 1717-91
Aleluia 1749

[Mesur: 886D]

gwelir:
Rhan I - O deffro tro fy enaid trist
Ai Iesu Cyfaill dynol-ryw?
Fy enaid nac an(n)ghofia groes
O boed fy nghalon oll ar dân
Rhow'd mantell goch am dan yr Oen
Trywanwyd do fy Mhrynwr rhad
Y ddaear fud ro'i meirw'n fyw

(About the suffering of Christ - Part 2)
The cross got carried to the hill's summit,
Until completely overwhelming
    my Jesus thus;
  Scorning my pure Redeemer:
And saying, Is this the Holy One of Israel?
His blood be upon us and our children;
  O my soul, remember his wounding.

The mute earth would give up its dead alive,
And the rocks above split into fragments,
  On looking on such wounding:
The sun would hide itself at the anguish,
The moon and the stars
    would become dark night;
  O my soul, remember his wounding.

He was pierced, yes, my gracious Redeemer,
Until from his heart came water and blood,
  As a stream like a pure river;
Which was on the ground seen as a lake,
Ardently on the summit of Calvary hill;
  O my soul, remember his wounding.

I hear his call when the anguish
    became more bitter,
And his earnest cry on the cross,
  For forgiveness for me truly;
His praise went for me above the sky,
And I nailing him to the tree;
  O my soul, remember his wounding.

For my soul was the gentle Lamb,
Thus suffering enormous pain,
  To make me truly free:
It was his intent to finish the work,
From the utmost vast eternity;
  O my soul, remember his wounding.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~